
Yn Ffynnon rydym yn angerddol dros gryfhau gwydnwch cymunedol.
Rydym yn cael cefnogaeth gan nifer o wirfoddolwyr sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol sylweddol yn eu cymuned.
O gasglu arian ac ymgyrchu, i dirlunio, garddio, achub afonydd, tyfu a choginio bwyd, addysgu, siarad yn gyhoeddus, stiwardio mewn digwyddiadau, newyddiadura, tynnu lluniau a fideos, gwneud gwaith gweinyddol, rheoli prosiectau, cefnogi gyda chyllid, a llawer mwy. Rydym yn cynnig profiadau sydd yn codi hyder, yn dyfnhau gwybodaeth, ac yn datblygu sgiliau bywyd gwerthfawr sydd o fudd i chi yn bersonol a’r rhai sydd o’ch cwmpas.
Nawr yw’r amser i gryfhau ein cymuned a chefnogi ein gilydd!


Cofrestru eich diddordeb mewn gwirfoddoli
Dewiswch un o’r prosiectau isod – neu dewiswch Ffynnon ei hun – i gofrestru eich diddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni. Cliciwch ar yr eicon “+” glas wrth ymyl y prosiect o’ch dewis er mwyn ei ychwanegu at y ffurflen gofrestru isod.
Unwaith y byddwch wedi ei gyflwyno, cewch eich ychwanegu i’n rhestr, a bydd arweinydd prosiect yn cysylltu â chi er mwyn esbonio mwy, ac i’ch helpu i ddod o hyd i’r rôl sy’n gweddu orau i chi yn seiliedig ar eich diddordebau, eich anghenion a’ch dyheadau.
Buddion Gwirfoddoli
Mae’r manteision o wirfoddoli a bod yn rhan o rwydwaith mor arloesol yn ddiddiwedd.
Mae Ffynnon yn cynnig y cyfle cyntaf yn ogystal â phrisiau gostyngedig ar weithdai, cyrsiau a digwyddiadau i’w gwirfoddolwyr sydd wedi tanysgrifio i’r rhestr e-byst ar gyfer gwirfoddolwyr (uchod), ac i’r rhai sy’n cofnodi eu horiau neu’n ymgymryd â rôl wirfoddol yn rheolaidd.
Rydym yn gwneud hyn nid yn unig i ddiolch i’n gwirfoddolwyr, ond hefyd er mwyn gwella eu lles a’u datblygiad personol yn gyffredinol.
Ein nod yw darparu cyfleoedd gwerthfawr sy’n cefnogi addysg, yn datblygu sgiliau, ac yn dyfnhau gwybodaeth.
Fel gwirfoddolwr, eich gwydnwch personol yw’n blaenoriaeth bennaf!
Gostyngiadau Awtomatig
Bydd y gostyngiadau yn amrywio o un cwrs neu ddigwyddiad i’r llall, ac yn dibynnu ar ffactorau megis cost, y cyllid sydd ar gael ar y pryd, a’r nifer o oriau rydych chi’n eu cofnodi. Bydd y gostyngiadau yn cael eu hychwanegu yn awtomatig pan gyrhaeddwch y man talu, ond bydd raid ichi ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a wnaethoch ei ddefnyddio i gofrestru gyda Ffynnon i fod yn gymwys.
Ar gyfer gwirfoddolwyr sy’n ymrwymo i rolau ‘swyddogol’ parhaol, rydym yn cynnig proses symlach lle nad oes angen i chi gofnodi eich oriau (maen nhw’n cael eu cofnodi ichi), a byddwch yn derbyn y gostyngiadau uchaf. Ond bydd raid ichi fod yn aelod o’n rhestr e-byst ar gyfer gwirfoddolwyr!
Mynediad Blaenoriaethol
Rydym yn holi ein gwirfoddolwyr yn gyson ynghylch pa sgiliau mae ganddyn nhw eisiau eu datblygu, ac rydym yn trefnu cyrsiau yn seiliedig ar eu dymuniadau, gan sicrhau hygyrchedd. Mae manylion am gyrsiau a digwyddiadau yn cael eu rhannu ar sawl sianel gyfathrebu, gan gynnwys WhatsApp, Signal a rhestrau E-bost. Mae hyn yn aml yn galluogi gwirfoddolwyr i gofrestru cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi.
Byddwch yn rhan o rwydwaith arloesol – Does dim angen sgiliau penodol arnoch, dim ond brwdfrydedd!

