Staff Ffynnon

Fel Cwmni Buddiant Cymunedol, a sefydliad nid-er-elw, mae Ffynnon yn cael ei arwain gan dîm o ymroddedig o gyfarwyddwyr, staff a gwirfoddolwyr sy’n cydweithio i sicrhau gwydnwch cymunedol a newid parhaol! Community Interest Company (CIC) and not-for-profit organisation, Ffynnon is led by a dedicated team of directors, staff and volunteers working together collaboratively with a commitment to community resilience and lasting change!

Dewch i gwrdd â’r staff sydd wrth wraidd eich gerddi cymunedol lleol, eich rhandiroedd, a ‘Farmstart’ cyntaf Cymru! O blannu coed a chyflenwi banciau bwyd, i gynnal cyrsiau a gweithdai fforddiadwy a chydweithio gydag ysgolion a grwpiau ieuenctid, rydym yn tyfu mwy na llysiau yn unig! Rydym yn maethu’r dyfodol, ac yn dod â storïwyr, cerddorion, ffilmiau a bwyd ffres atoch mewn digwyddiadau ar hyd y flwyddyn!


Rosie Gillam - Rheolwr Prosiect
Rydw i wedi bod yn gweithio ym maes egni adnewyddadwy cymunedol ers 2015, ac yn gwirfoddoli fel Cyfarwyddwr, trefnydd a garddwraig gyda Ffynnon ers 2020. Ymgeisiais am rôl Rheolwr Prosiect gyda Ffynnon yn hydref 2023, gan barhau i wirfoddoli fel tyfwr, Cyfarwyddwr, ac o bryd i’w gilydd, fel trefnydd. Rydw i’n angerddol dros ddefnyddio’r offer sydd gennym i wella sgiliau, gwydnwch a hyder er mwyn medru darparu ar ein cyfer ein hunain yn lleol, yn ogystal â sefydlu systemau cymdeithasol ac ymarferol sydd eu hangen arnom yn ystod cyfnod o newid mawr. Rydw i hefyd yn datblygu sgiliau newydd mewn cynhyrchu bwyd, meddyginiaethau naturiol, a gweithio mewn systemau lle nad oes hierarchaeth.

Mae fy nyletswyddau yn cynnwys:

  • Cydweithio gydag eraill ar weledigaeth a chyfeiriad y cwmni
  • Creu cysylltiadau gyda sefydliadau eraill i gydweithio a chryfhau ein gwaith
  • Chwilio a rheoli cyllid ar gyfer ein prosiectau
  • Chwilio a rheoli cyllid ar gyfer ein prosiectau
  • Rheoli’r broses adeiladu ar gyfer dau o’n hadeiladau yn y Farmstart yn Abercych.
  • Cynorthwyo i redeg sesiynau garddio yn y Gymraeg mewn ysgolion lleol.

Jo Denham – Food Production and Ecology Mentor
I spend part of my time on our family farm producing beef, calves, live poultry, fruit and vegetables, and part time working for Ffynnon CIC. I have worked in regenerative agriculture and volunteer management in community projects for a decade. I trained in Philosophy, and have skills/passions in facilitation, agroforestry, rewilding, project management, horticulture, music, and creative writing.

Mae fy nyletswyddau’n cynnwys:

  • Supporting our community gardens and allotments
  • Managing our Farmstart program
  • Grant applications and reporting
  • Media and outreach
  • Helping to design Tir y Ffynnon Community Farm
  • Implementing biodiversity measures
  • Organising Apple Day
  • Running food production, ecology, and regenerative agriculture workshops and volunteer sessions
  • Occasional school projects
  • Liaising with collaborative partners
  • Supporting directors with long-term planning

Tessa Jane - Cydlynydd
Rydw i wedi bod yn rhedeg busnes teuluol gyda fy ngŵr ers 2011, yn darparu ynni solar, golau, ac addysg mewn digwyddiadau. A minnau eisiau arallgyfeirio, ymgeisiais am y swydd Cydlynydd gyda Ffynnon, ac rydw i wedi mwynhau bod yn rhan o’r gymuned yn fawr. Un o’r pethau rydw i’n angerddol drostyn nhw yw garddio, yn enwedig perlysiau meddyginiaethol. Rydw i wrth fy modd yn yr awyr agored, ac yn creu newid o’r gwraidd.

Mae fy nyletswyddau’n cynnwys:

  • Cydweithio gyda gwirfoddolwyr i redeg digwyddiadau dathliadol ac addysgol
  • Cydlynu a chynorthwyo i ehangu ein darpariaeth addysg i ysgolion
  • Cynorthwyo’r Rheolwr Tyfu i ehangu ein rhwydwaith o dyfwyr
  • Gweithio gyda staff eraill i reoli gwirfoddolwyr a gwella profiad gwirfoddolwyr
  • Cynorthwyo rheolwyr i gynllunio a gweithredu’r rhaglen Farmstart

Ross Lowe - Cydlynydd
Gyda chefndir mewn gwefannau, busnes, nwyddau masnach a marchnata, rydw i hefyd wedi treulio chwe blynedd yn gweithio yn y sector gofal yn cefnogi cleifion gyda Sglerosis Ymledol (MS). Ar ôl hynny, troais at rolau mwy cymdeithasol ym maes lletygarwch a digwyddiadau, ac yn y pen draw deuthum i weithio yn fy nghymuned leol fel Cydlynydd gyda Ffynnon.
Mae gweithio gyda Ffynnon wedi bod yn wych. Mae wedi rhoi’r hyblygrwydd i mi ddod i ben gyda bywyd teuluol wrth weithio ar brosiectau sy’n tyfu ac yn gwella bob blwyddyn. Rwy’n cael defnyddio fy sgiliau a’m gwybodaeth, ond yn cael parhau i ddysgu hefyd. Ond y rhan orau i mi yw cael gweld y gymuned yn dod ynghyd ac yn cysylltu dros fwyd iach, a cherddoriaeth fyw o bryd i’w gilydd.

Mae fy nyletswyddau’n cynnwys:

  • Rheoli a chynnal y wefan
  • Gwaith marchnata a hyrwyddo
  • Rheoli’r rhestrau e-byst, cylchlythyrau, a chyfathrebu
  • Cydlynu cyrsiau, gweithdai a digwyddiadau
  • Rheoli a chefnogi gwirfoddolwyr
  • Rydw i hefyd yn ymgymryd â dyletswyddau Swyddog Diogelu

Helen Wragg - Swyddog Cyllid
Helen ydw i. Rydw i wedi bod yn gweithio mewn sawl rôl ym maes Cyfrifon a Chyllid ers dechrau’r 1990au, gan gynnwys gweithio am 27 mlynedd gyda fy ngŵr yn rhedeg ein busnes ein hunain cyn penderfynu camu’n ôl ac ymddeol yn rhannol. Dyma fy rôl hon gyntaf gydag elusen, ac rydw i wir yn mwynhau’r newid mewn ffocws. Rydw i wrth fy modd yn gweithio gyda gweddill y tîm, ac yn teimlo’n ffodus o gael y cyfle i fod yn rhan o Ffynnon.

Mae fy nyletswyddau’n cynnwys:

  • Diweddaru’r cofnodion ariannol
  • Cyflogres
  • Adrodd i awdurdodau sy’n dyfarnu grantiau
  • Rheoli’r llyfr prynu
  • Cynorthwyo gyda dadansoddi data ariannol