Croeso i Ffynnon.org.uk

Mae Ffynnon yn fenter gynhwysol sy’n cael ei harwain gan y gymuned. Mae wedi ymrwymo i feithrin gwydnwch cymunedol ar draws gogledd-ddwyrain Sir Benfro ac o amgylch Aberteifi a’r ardaloedd cyfagos.
Rydym yn darparu addysg, hyfforddiant a chyfleoedd sy’n cynnig llwybrau cadarnhaol, yn datblygu sgiliau ymarferol ac yn cefnogi iechyd a lles unigolion o bob oed.

Mae ein gwaith yn cwmpasu cynnal prosiectau diogeledd bwyd, datblygu gerddi cymunedol, trefnu digwyddiadau cymdeithasol, hybu ymwybyddiaeth amgylcheddol, a chynnig gweithgareddau awyr agored sydd yn seiliedig ar fyd natur. Rydym yn cydweithio’n agos gydag ysgolion a chynghorau lleol er mwyn ehangu mynediad a chryfhau dylanwad cymunedol. Rydym eisoes wedi cyflwyno rhaglen ‘Farmstart’ gyntaf Cymru, ac wrthi’n sefydlu ein fferm gymunedol newydd, Tir y Ffynnon. Rydym yn falch o feithrin cyfleoedd, cysylltiadau, a dyfodol mwy gwydn i’n cymuned.

If you haven’t already, create an account Efallai eich bod eisoes wedi gwneud hyn, ond cofiwch greu cyfrif i ymuno â ni ar ein taith. Dewch i fod yn rhan o rwydwaith cymunedol cyffrous ac arloesol.

Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn cynnal diwrnodau gwirfoddoli yn rheolaidd, yn ogystal â gweithgareddau, gweithdai, cyfleoedd hyfforddi, a digwyddiadau cerddorol sy’n gwerthu pob tocyn. Dewch i ymuno â chymuned sy’n tyfu ac yn cyd-weithio i sicrhau gwydnwch.

Mae ein prosiectau, ein cyrsiau a’n digwyddiadau yn cael eu siapio gan ein cymuned trwy gyfarfodydd agored, grwpiau llywio, arolygon, ymgynghoriadau, a phleidleisiau ar-lein. Yn y llun uchod mae ein gwirfoddolwyr, a ddaeth at ei gilydd yn ein gwledd flynyddol er mwyn penderfynu ar gyfeiriad ar gyfer y flwyddyn oedd i ddod. Dyna ichi esiampl bwerus o weithredu cymunedol ar waith.



  • Manna Bee CIC

    Manna Bee CIC

    “In terms of what’s next for the CIC, we’re currently building our website, and alongside that exploring options to obtain land where we can establish honey bee food… Continue Reading

  • Tir Y Ffynnon

    Tir Y Ffynnon

    Croeso i fferm Tir Y Ffynnon! Mae prosiect diweddaraf Ffynnon wedi bod yn tyfu’n araf trwy hanner cyntaf y fflwyddyn. Mae’r prosiect wedi’i leoli ger Cilgerran, gyda 70… Continue Reading

  • Cegin Teifi

    Cegin Teifi

    Exciting news! We are preparing for the launch of the Cegin Teifi Community Fridge in Cardigan and we’d love to invite you to the opening: When? Friday 24th… Continue Reading

  • Ysgol Cilgerran – Kids Garden

    Ysgol Cilgerran – Gardd Y Plant

    Ers blwyddyn bellach, rydym wedi bod yn gweithio ar brosiect cyffrous iawn – cynllunio a gosod gardd newydd ar gyfer Ysgol Cilgerran! Ein cyd-gweledigaeth oedd cynnal proses ddylunio… Continue Reading

  • Celebrating Volunteer Week!

    Celebrating Volunteer Week!

    Diddordeb mewn cefnogi system fwyd leol gynaliadwy i bawb? Dewch i ymuno â’r tîm! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os ydych yn ystyried gwirfoddoli. Cysylltwch a… Continue Reading

  • Food & Farming

    Food & Farming

    Finding Peace and Growth: A Look Back at Our Horticulture Programme Over the last year, we’ve had the absolute joy of running three 6-week horticulture programmes at Field… Continue Reading

  • Community Cwtsh 2026

    Cwtsh Cymunedol 2026

    Another successful Community Cwtsh for 2026! An intimate garden gathering for Cilgerran’s locals at our Fruit and Nut community garden. Where we held a plant swap, a raffle,… Continue Reading

  • BWYD POWYS FOOD PRESS RELEASE

    BWYD POWYS FOOD PRESS RELEASE

    Ffynnon are on the advisory board for this cross-county project and attended the stakeholder workshop at CAT, which contributing to this following result and press release. Release date… Continue Reading