Egin Ffermio Ffynnon

Ffynnon Farmstart, Egin Ffermio logo

Rhaglen yw Egin Ffermio lle bydd sefydliad yn eich cefnogi CHI i droi a datblygu syniad ffermio yr ydych chi’n angerddol drosto yn fusnes newydd-ddyfodiaid.

Fel y dywedodd Gweithwyr y Tir:
“Mae Egin Ffermio yn aml yn cynnwys mynediad diogel i sawl un o’r canlynol:

  • Hyfforddiant a mentora
  • Tir
  • Marchnadoedd
  • Cefnogaeth fusnes
  • Dilyniant y tu hwnt i’r Egin Fferm
  • Offer ac isadeiledd
  • Mynediad at gymuned o Egin Ffermwyr neu Gynhyrchwyr Agroecoleg eraill"

    The Landworkers Alliance

Sut i sefydlu Egin Fferm, 2018

Mae’r rhaglen wedi ei chynllunio i gynorthwyo pobl i oresgyn t rhwystrau a dod yn ffermwyr, yn dyfwyr ac yn gynhyrchwyr newydd. Mae’r rhwystrau hynny’n cynnwys prisiau tir, prisiau peiriannau, diffyg cefnogaeth a hyfforddiant wedi ei deilwra ar gyfer menter benodol, diffyg cefnogaeth gymunedol a llwybrau i’r farchnad. Ar adeg pan fo prisiau bwyd ac ansicrwydd hinsawdd yn cynyddu, mae angen mwy o bobl nag erioed yn uwchsgilio ac yn cyfrannu at ddiogeledd bwyd yng Nghymru, wrth ddysgu sut i reoli tir mewn ffyrdd sy’n cynnal a chryfhau ei wydnwch i eithafion hinsawdd.

Wedi dwy flynedd beilot yn datblygu ein model cynnar o Egin Fferm gyntaf Cymru, rydym yn falch o gyhoeddi ein bod am y trydydd tro yn agor ein rhaglen gefnogaeth, diolch i gyllid gan Y Loteri Genedlaethol, Pawb a’i Le!

Yn y gorffennol, rydym wedi cefnogi mentrau: gwartheg atgynhyrchiol; compostio gyda mwydod, meithrinfa goed brodorol; geifr godro; magu gwyddau Nadolig; a chynnyrch gwenyn. Rydym yn awyddus i gefnogi ystod eang o fentrau eto, yn cynnwys y rhai hynny sydd â diddordeb mewn garddwriaeth megis garddio marchnad a ffrwythau masnachol. bee products.
We are keen to support a wide range of enterprises again, including those interested in horticulture such as market gardening or commercial fruit.

Rydym yn ffodus o gael tir yng Nghilgerran ar gyfer y prosiect hwn, ond mewn rhai sefyllfaoedd mae’n bosibl cefnogi rhywun mewn ardal arall yng Ngorllewin Cymru, os oes gan yr ymgeisydd fynediad at dir ei hun. Yn anffodus, nid ydym yn medru mynd y tu hwnt i Sir Benfro a’i ranbarthau cyfagos.

Rydym yn gyffrous iawn i’ch cefnogi wrth i chi ddechrau ar eich taith ffermio/tyfu. Cysylltwch drwy’r ffurflen isod i fynegi eich diddordeb.

Ffynnon farmstart cattle at sunset, Cilgerran, Pembrokeshirte.

Mae ceisiadau yn agor ar 7 Medi ac yn cau ar 16 Hydref, ar gyfer lle ar y cynllun sy’n dechrau ar 1 Tachwedd. Bydd pob lle Egin Ffermio yn rhedeg am flwyddyn, ac mae pob egin ffermwr yn cyfrannu ffi a blaendal am ddefnyddio’r cynllun, sy’n helpu i dalu am yr offer a’r deunyddiau a brynir ac a ddefnyddir ganddyn nhw, yn ogystal â mynediad at fentoriaeth arbenigol a chostau rhedeg cyffredinol tra bod prif staff y prosiect a pheiriannau craidd eraill yn cael eu hariannu’n hael trwy grantiau.

Loading…


Geirdaon Egin Ffermio Ffynnon

Y Feithrinfa Goed

Ffynnon Farmstart, Tree nursery, Clynfyw, Aber-cych, Pembrokeshire
Ffynnon Farmstart, Andrew of (Coppicewood college)  Tree nursery, Clynfyw, Aber-Cych, Pembrokeshire

"Rydw i wedi cael blwyddyn gyntaf ffantastig, ac wedi derbyn cefnogaeth wych i wireddu fy ngweledigaeth o feithrinfa goed"

"Mae Jo a Pete yn anhygoel"

Ffynnon Farmstart, Young trees nursery, Clynfyw, Aber-Cych, Pembrokeshire

Llaethdy Meicro

 "Mae Egin Ffermio Ffynnon wedi bod yn wych i ni"

“Mae’n wych bod gan Gilgerran nifer o erwau i’n rhoi ar ben ffordd”“

"Byddem wrth ein bodd yn eich croesawu chi ar ein tir i ymweld â’r defaid a’r geifr, ac rwy’n siŵr y byddan nhw’n falch o’ch gweld chithau eto hefyd"“

Goat shed at Ffynnon Farmstart Cilgerran, Pembrokeshire.
Goats at Ffynnon Farmstart, Cilgerran, Pembrokeshire.