Y Fenter

Ffynnone Community Resilience C.I.C (Ffynnon)

Sefydliad nid-er-elw wedi ei leoli yng ngogledd-orllewin Sir Benfro yw Ffynnon. Ei nod yw cefnogi a chryfhau gwydnwch cymunedol, gan baratoi i ymgymryd â’r heriau rydym yn eu hwynebu heddiw a’r rhai a ddaw yn y dyfodol.

Rydym yn pryderu am ein dibyniaeth ar systemau bregus i ddarparu anghenion sylfaenol bywyd. Rydym wedi gweld costau’n cynyddu a gostyngiad mewn argaeledd bwyd, lloches, a thanwydd. Rydym yn gweld effaith newid hinsawdd ar gynhyrchu bwyd, yn ogystal â’r difrod y mae’n ei achosi i isadeiledd a thai. Methodd cadwyni cyflenwi archfarchnadoedd â darparu yn ystod Covid, mae argyfwng tai yn y Sir, ac mae prisiau tanwydd a bwyd yn golygu bod llawer o weithwyr yn gorfod penderfynu pa hanfodion y maen nhw’n medru eu prynu. Yn sgil hyn, mae’r defnydd o fanciau bwyd yng Nghaerfyrddin wedi codi i’r entrychion. Ein huchelgais yw cefnogi a chydlynu ymdrechion pobl leol i ddatblygu systemau cadarn sy’n gwasanaethu’r gymuned leol.

Ein Hamcanion

Rydym ni eisiau gwarchod ein hardal leol rhag y cynnydd mewn prisiau bwyd a thanwydd. Rydym ni eisiau iddi fedru ymdopi ag effeithiau newid hinsawdd, ac addasu pan mae cadwyni cyflenwi byd-eang yn methu.

Rydym ni eisiau datblygu systemau yn lleol sydd yn ein cynnal ac yn helpu trigolion lleol a byd natur i ffynnu, er gwaetha’r heriau sydd i ddod.

Rydym ni eisiau cynyddu diogeledd bwyd ac ynni ar gyfer ein holl drigolion, yn ogystal â diogelwch rhag llifogydd. Dylai bwyd da a chartref cynnes a sych fod ar gael i bawb.

Rydym ni eisiau adeiladu systemau a dulliau cyfathrebu sydd yn rhoi llais i bawb, yn grymuso pobl i weithredu ar y materion sy’n bwysig iddyn nhw, ac yn ein galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus gyda’n gilydd.

Mae cymaint o sgiliau ac asedau yn lleol, ac rydym eisiau helpu i’w cysylltu â’u datblygu er lles pawb.

Mae gennym i gyd feddwl mawr o’r wlad o’n cwmpas ac eisiau cyfoethogi natur a gwarchod ecosystemau rhag llygredd a dirywiad amgylcheddol.


Ein Cyfansoddiad

Cymerwch olwg ar Gyfansoddiad Gwydnwch Cymunedol Ffynnone (CBC)


Cymryd Rhan

Cydweithio

Cydweithio gyda Ffynnon

Gwirfoddoli

Gwirfoddoli gyda Ffynnon

Mynychu

/ Mynychu cwrs neu ddigwyddiad cymunedol


Rhannu ar Facebook