
Ers blwyddyn bellach, rydym wedi bod yn gweithio ar brosiect cyffrous iawn – cynllunio a gosod gardd newydd ar gyfer Ysgol Cilgerran!
Ein cyd-gweledigaeth oedd cynnal proses ddylunio wir gydweithredol rhwng y plant, yr athrawon, llywodraethwyr, a gweithwyrFfynnon, i arddangos yr hyn y gall y gymuned ei gyflawni pan ddaw at ei gilydd.
Dechreuodd y cyfan flwyddyn yn ôl, pan gynhalion ni rai sesiynau creadigol ar y cyd ag arweinwyr ysgolion coedwig Plentyn Y Ddaear, a chasglu adborth gwych gan ddosbarthiadau yn Ysgol Cilgerran ar yr hyn yr oeddent yn ei fwynhau am eu mannau awyr agored presennol, a’r hyn yr oeddent am weld mwy ohono. Yna fe wnaethon ni fynd â’r syniadau hwn i Gyngor Eco’r plant a chynnal ail sesiwn, lle helpodd y cyngor eco i fapio dyluniad ar gyfer yr ardd, a chafodd y plant gyfle i gyfrannu eu creadigrwydd, eu dewisiadau, a’u gobeithion am ardd – o’r hollol wallgof, i’r ymarferol iawn! (Roedd yn rhaid i ni ddweud na wrth y ramp sglefrio rholercoster yn anffodus…)



Unwaith i ni ei leihau i rywbeth mwy posibl, lluniodd gweithwyrFfynnon fap swyddogol a chyllideb yn seiliedig ar syniadau’r plant, a’i anfon at yr athrawon/llywodraethwyr i roi stamp cymeradwyaeth i’r gwahanol syniadau, neu eu gwrthod. Arweiniodd hyn at ein dyluniad terfynol!
Eleni, rydym wedi bod yn brysur yn archebu planhigion, pridd ac offer maes chwarae i wireddu’r cynlluniau. Dechrau mis Mai, caethon ni ddiwrnod gwirfoddoli gwych gyda awyrgylchgymunedol mor dda – daeth gwirfoddolwyr Ffynnon, athrawon, plant, rhieni, neiniau a theidiau, ac aelodau o’r gymuned leol i gyd i helpu a throi tir gwyllt-diffaith llawn mieri yn ardd. Caethon ni de a sudd, brechdanau bacwn a chacennau i roi tanwydd i bawb, a chafodd pawb amser gwych! Nawr mae Ffynnon a staff yr ysgol yn rhoi’r cyffyrddiadau olaf ar waith, yn barod ar gyfer agoriad gardd yr haf hwn.
Mae’r ardd wir wedi’i bwriadu i fod yn ardd synhwyraidd – mae ffrwythau a pherlysiau i’w blasu, blodau persawrus i’w harogli, coed, blodau a llwyni hardd i weld, blwch tywod a lawnt braf i’w chyffwrdd, a ffynnon a llwyfan perfformio am sain! Mae yna fainciau chwarae a rhai seddi pren i ddod, i annog cymdeithasu a chwarae creadigol hefyd. Ein gobaith yn Ffynnon yw y bydd y lle hyfryd hwn yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd sbon o blant lleol i gysylltu â natur a’i gwerthfawrogi yn eu bywydau i ddod.
